EVOLVE Caerdydd
EVOLVECardiff from Dancers' Career Development on Vimeo.

Daw EVOLVE i Gaerdydd am y tro cyntaf erioed dydd Iau 5ed Mai 2016, mewn partneriaeth Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru. Medrwch ddod i wybod rhagor ynghylch yr hyn sy'n digwydd yn EVOLVE yma.
Dyddiad: Dydd Iau 5ed Mai 2016
Amser: 9:30am - 5pm
Lleoliad: Y Tŷ Dawns, Canolfan Mileniwm Cymru
Pris: O archebu'n gynnar:,£25 (cyn 14eg Ebrill), Pris llawn:,£30
Os gwelwch yn dda cysylltwch ni trwy ffonio 020 7831 1449 os yw'r gost yn rhwystr i chi fedru mynychu. Mae nifer cyfyngedig o lefydd wedi eu sybsideiddio ar gael.
Yn ogystal 'r gweithdy sy'n para trwy'r dydd, rydym hefyd yn darparu cyfle i gael ymgynghoriadau unigol a sesiynau fesul un gyda hyfforddwr ar gyfer dawnswyr dydd Gwener 6ed Mai. yn nigwyddiad EVOLVE Caerdydd os gwelwch yn dda
Ein siaradwyr:
Dane Hurst

Photo: DCD Retrained Dancer, Roy Campbell-Moore
,"DCD is absolutely fantastic and we dancers rely so much on their work and support. It is truly remarkable how they manage to represent and assist so many companies and dancers across the country. I am thrilled to be a part of EVOLVE in its first ever visit to Cardiff and sharing my experiences of career transition so far.,"
Ganed Dane Hurst yn Port Elizabeth, De Affrica. Ymunodd ag Ysgol Rambert yn 2003 ac yn 2004 ymunodd Chwmni Dawns Rambert fel y cyntaf i dderbyn addysged ymddiriedolaeth goffa Sally Gilmour. Enwebwyd Dane fel dawnsiwr newydd gorau'r flwyddyn yn 2006 ac yn 2007 derbyniodd Gwobr Dawnsiwr Spotlight y Flwyddyn gan Gylch Beirniaid Gwobr Ddawns Genedlaethol y DU. Mae wedi ymddangos fel gwestai gyda Chwmni Dawns Rambert, Theatr Ddawns Phoenix, Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru, Cwmni Dawns Theatr Mad Dogs a Sefydliad Curve. Yn 2014 graddiodd Dane gydag MA mewn Coreograffi o Brifysgol Caint a'r Ysgol Fale Ganolog
Ar hyn o bryd mae Dane yn gweithio fel Cyfarwyddwr Creadigol annibynnol, ac fe'i cefnogwyd gan DCD er mwyn gorffen Cwrs Byr Rhaglen Arweinwyr Clore yn Chwefror 2016.
Clare Meardon

,"DCD's support has allowed me to continue with a career that I am passionate about and uses all my skills from my dance career. I'm so looking forward to sharing my story with other dancers at EVOLVE Cardiff, showing how our skills and knowledge can be transferred into new possibilities.,"
Treuliodd Clare 12 mlynedd fel dawnsiwr proffesiynol ar l graddio o Goleg y Perfformwyr yn 2001. Mae wedi perfformio o gwmpas y byd mewn llawer o fathau amrywiol o ddawns yn cynnwys Theatr Gerddorol, teledu cerddorol, gyda chwmnau dawns ac fel merch sioe, gan ddawnsio gyda Ritchie, Shirley Bassey ac Engelbert Humperdinck ymhlith eraill. Mae Clare wedi perfformio hefyd fel dawnsiwr Cancan yn La Nouvelle Eve ym Mharis, a gyda The West End Experience, C-Scape, Duchy Ballet a Rogue Theatre yn y DU. Defnyddiodd Clare Ddull Pilates trwy gydol ei hyfforddiant a'i gwaith proffesiynol er mwyn cryfhau ei chorff, osgoi anafiadau ac er mwyn hybu adferiad. Bellach wedi ei lleoli yn ei Chernyw enedigol, mae Clare wedi sefydlu ei busnes Pilates a dysgu dawns ei hun, Savvy Studios (with link to your website). Cefnogwyd Clare gan DCD er mwyn ei galluogi i gyflawni Hyfforddiant Athro Pilates Achrededig Lefel 3 gyda Pilates a rheolaeth y Corff yn 2014.
Eisiau gwybod rhagor ynghylch EVOLVE? Cysylltwch os gwelwch yn dda gydag Ellen Chambers, Swyddog Grantiau a Gyrfaoedd, trwy e-bostio ellen@thedcd.org.uk ynteu ffonio 020 7831 1449.


